2 Tachwedd 2015
Annwyl Brif Weinidog
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17
Hoffwn eich gwahodd i gyfarfod o'r Pwyllgor ddydd Mercher 13 Ionawr 2016 i roi tystiolaeth mewn cysylltiad â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17.
Disgwylir i'r sesiwn dystiolaeth bara awr, gan ddechrau am 11.00. Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd. Byddai'n ddefnyddiol pe gallech ddarparu papur dwyieithog i'r Pwyllgor mewn perthynas â'r gyllideb ddrafft erbyn dydd Mawrth 15 Rhagfyr. Byddai'r Pwyllgor yn arbennig o ddiolchgar o gael gwybodaeth am y materion cyllidebol a amlygir yn yr atodiad i'r llythyr hwn.
Yn gywir
Christine Chapman AC
Cadeirydd
Atodiad
Cais gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i'r Prif Weinidog ddarparu gwybodaeth i lywio'r gwaith o graffu ar gyllideb ddrafft 2016-17
Craffu ar y gyllideb ddrafft o safbwynt yr iaith Gymraeg
Mae'r Pwyllgor yn ymwybodol bod dyraniadau cyllid penodol ar gyfer y Gymraeg yn y gyllideb ddrafft ar hyn o bryd yn dod o fewn y Prif Grŵp Gwariant Addysg a Sgiliau.
Fodd bynnag, gan mai chi sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol dros bolisi'r iaith Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, hoffem eich gwahodd i ymddangos gerbron y Pwyllgor i drafod cyllideb ddrafft 2016-17 yn y cyd-destun hwn.
Yn ogystal â chraffu ar y dyraniadau yn y gyllideb ddrafft sydd â'r nod penodol o hyrwyddo'r iaith Gymraeg, mae'r Pwyllgor yn bwriadu ystyried sut y mae Llywodraeth Cymru wedi asesu effaith ehangach dyraniadau'r gyllideb ddrafft ar yr iaith.
Fel y cyfryw, byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar i gael
y wybodaeth ganlynol ar ffurf tystiolaeth ysgrifenedig.
Cyflwyno'r gyllideb
Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi croesawu'r gwelliannau a wnaed i'r dull o gyflwyno'r gyllideb yn y blynyddoedd diwethaf, ac wedi argymell y dylai'r gwaith barhau er mwyn sicrhau bod dyraniadau'r gyllideb yn cyd-fynd mewn ffordd fwy eglur fyth ag ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu.
Fel y llynedd, hoffai'r Pwyllgor gael y llinellau gwariant unigol sy'n berthnasol i'r Pwyllgor hwn, ar gyfer eich portffolio chi.
Dylem nodi ein bod yn ymwybodol bod y Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg wedi gofyn am wybodaeth gan y Gweinidog Addysg a
Sgiliau am ddarpariaeth yn y gyllideb i gefnogi'r broses o
weithredu Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru a
Chynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg awdurdodau lleol. Fodd
bynnag, er mwyn hybu tryloywder, byddem hefyd yn croesawu'r
wybodaeth hon er mwyn cael rhywfaint o gyd-destun o ran sut y mae
cyllid i hybu'r Gymraeg wedi cael ei ddyrannu yn ei
gyfanrwydd.
Ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu
O ran Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, byddai'r Pwyllgor yn gwerthfawrogi cael y wybodaeth a ganlyn:
Polisïau allweddol
Byddai'r Pwyllgor yn arbennig yn dymuno cael gwybodaeth am y canlynol:
· beth yw'r berthynas rhwng dyraniadau'r gyllideb ddrafft a'r broses o roi ar waith y strategaeth Iaith Fyw:Iaith Byw a'r ddogfen Bwrw Mlaen wedi'i diweddaru, gan gynnwys gwybodaeth am sut y mae'r dyraniadau ar gyfer 2016-17 yn cysylltu â'r strategaethau hynny o ran targedau, canlyniadau a gyflawnwyd hyd yma a'r canlyniadau a fwriedir yn y dyfodol;
· pa asesiad yr ydych chi wedi'i gynnal o effaith ailflaenoriaethu cyllid o dan y ddogfen Bwrw Mlaen, gan gynnwys ar y meysydd hynny (fel cefnogaeth i ddysgwyr Cymraeg a dysgwyr sy'n oedolion) lle y cafodd lefel y cyllid ei leihau yn 2015-16;
· yn dilyn sesiwn y llynedd ar y gyllideb ddrafft, i ba raddau yr ydych yn gallu nodi faint o arian a ddefnyddir i gefnogi, hyrwyddo neu amddiffyn y Gymraeg ar draws portffolios pob Gweinidog (gan gynnwys mewn cyllidebau nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â'r iaith Gymraeg), ac a yw Llywodraeth Cymru wedi cymryd unrhyw gamau tuag at allu darparu'r wybodaeth hon;
· sut mae'r broses barhaus o roi Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ar waith wedi dylanwadu ar ddyraniadau'r gyllideb ddrafft, gan gynnwys dyraniadau cyllid ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg a'r sail a ddefnyddir i benderfynu ar y rhain;
· beth yw'r berthynas rhwng dyraniadau'r gyllideb ddrafft a gweithrediad y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys gwybodaeth am sut y mae hyn yn cysylltu â thargedau, canlyniadau a gyflawnwyd hyd yma a'r canlyniadau a fwriedir.
Hoffai'r Pwyllgor hefyd weld:
· manylion am gostau gweithredu'r polisïau hyn a / neu unrhyw waith sy'n cael ei wneud i asesu costau o'r fath;
· gwybodaeth ynglŷn â sut y bwriedir monitro a gwerthuso gweithrediad y polisi, a'r canlyniadau cysylltiedig, i ddangos gwerth am arian.
Asesiadau o'r effaith ar y Gymraeg
Fel a nodwyd yn ein llythyr atoch ar 29 Hydref 2014, ar ôl craffu ar gyllideb ddrafft 2015-16, mae’r angen i asesu'n well pa effaith y mae penderfyniadau cyllidebol yn ei chael ar y Gymraeg ar draws portffolios y Gweinidogion wedi bod yn thema barhaus yn ein gwaith craffu cyllidebol. Y llynedd, fe wnaethom fynegi siom ynghylch "y diffyg manylion yn yr Asesiad Effaith Integredig Strategol" yn hyn o beth, ac ailadrodd ein bod yn disgwyl i "Asesiadau Effaith Integredig Strategol yn y dyfodol adlewyrchu'n well y gwaith a wnaed ar draws adrannau i asesu effaith penderfyniadau cyllidebol ar y Gymraeg".
Yn eich ymateb inni ar 19 Tachwedd 2014, nodwyd y byddai asesiadau o'r effaith ar y Gymraeg a ddatblygwyd yn ddiweddar yn sicrhau bod sefyllfa'r Gymraeg yn cael ei hystyried mewn penderfyniadau cyllidebol, ac y byddai hynny, yn ei dro, yn eich cynorthwyo i nodi gwariant ar y Gymraeg mewn cyllidebau nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â'r iaith. Dywedwyd hefyd y byddech, wrth ddatblygu cynlluniau cyllidebau yn y dyfodol, yn edrych yn ofalus ar ffyrdd o wella rhagor ar y wybodaeth hon.
Hoffai'r Pwyllgor, felly, gael gwybodaeth am y canlynol:
· manylion ynghylch sut y cafodd dyraniadau yng nghyllideb ddrafft 2016-17 (ar draws portffolios y Gweinidogion) eu hasesu o ran eu heffaith ar y Gymraeg
· sut yr ydych wedi gwella'r asesiadau hyn a'r wybodaeth honers y llynedd;
· enghreifftiau penodol o sut y dylanwadodd unrhyw asesiadau o'r fath ar ddyraniadau ar draws portffolios y Gweinidogion;
· cadarnhad a gynhaliwyd yr asesiadau hyn ar gyfer dyraniadau ym mhob Prif Grŵp Gwariant, ac os na, pam ddim.
Gwariant ataliol
Fel y llynedd, mae gan y Pwyllgor ddiddordeb mewn trafod gwariant ataliol fel rhan o'i waith o graffu ar gyllideb ddrafft 2016-17. Dyma'r diffiniad o wariant ataliol a fabwysiedir at y diben hwn:
...gwariant sy'n canolbwyntio ar atal problemau ac sy'n lleddfu'r galw am wasanaethau yn y dyfodol drwy ymyrryd yn gynnar, a thrwy hynny sicrhau gwell canlyniadau a gwerth am arian.
Gan gofio'r diffiniad hwnnw, hoffai'r Pwyllgor gael gwybodaeth am y canlynol:
· pa gyfran o gyllideb y Gymraeg a ddyrannwyd ar gyfer camau gwariant ataliol;
· manylion am bolisïau neu raglenni penodol sy'n berthnasol i'r Gymraeg y bwriedir iddynt fod yn ataliol; a
· sut y caiff gwerth am arian rhaglenni o'r fath ei werthuso, gan ganolbwyntio'n arbennig ar beth yw'r mewnbynnau penodol a'r canlyniadau a fwriedir.
Darparu ar gyfer deddfwriaeth
Hoffai'r Pwyllgor hefyd weld:
· gwybodaeth am y graddau y mae unrhyw ddeddfwriaeth Gymreig sydd wedi'i phasio, neu sydd wrthi'n cael ei phasio, neu y mae wedi'i chynllunio yn y rhaglen ddeddfwriaethol, yn debygol o gael effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol ar y Gymraeg ym mlwyddyn ariannol 2016-17.
· gwybodaeth am effaith unrhyw ddeddfwriaeth y DU ar y Gymraeg.